awyru

Roedd pob cell yn adain 1866 yn cael ei hawyru a'i chynhesu ar wahan. Mae fentiau yn waliau'r celloedd a thwneli o dan y lloriau yn rhan o system cylchynu aer a oedd yn cadw'r celloedd yn oer yn yr haf ac yn iach yn y gaeaf.

Roedd cysylltiad unigol rhwng pob cell a'r twr awyru ar y to. Drwy gylchynu awyr iach y gobaith oedd cyfyngu ar ledaeniad afiechydon a chadw'r carcharorion yn iach i weithio. Roedd y system ddyfeisgar hon yn golygu na allai carcharorion, a oedd i gadw'n ddistaw yn ôl y rheolau, gyfathrebu a'u cymdogion drwy weiddi neu daro ar y fentiau.