Datganiad
Mynediad Carchar Rhuthun Manylion Cyfeiriad: 46 Stryd Clwyd Rhuthun LL15 1HP Rhif ffôn: 01824 708281 Rhif ffacs: 01824 708258 E-bost: susan.dalloe@sirddinbych.gov.uk Gwefan: www.carcharrhuthun.co.uk Cludiant l Ceir nifer cyfyngedig o fannau parcio hygyrch am ddim ar y safle. l Dau faes parcio talu ac arddangos pum munud o waith cerdded o’r safle. Prif Fynedfa / Cyfleusterau Derbynfa l Ar agor yn ddyddiol, 10am – 5pm (mynediad olaf am 4.00pm) o fis Chwefror tan ddiwedd Hydref : agored ar y penwythnosau yn unig o fis Tachwedd tan ddiwedd Ionawr. Oedolion £3.00, Gostyngiadau £ 2.00, Tocyn teulu £8.00 l Cynigir tocyn arbennig i drigolion Rhuthun – talu’r pris llawn am un ymweliad ac yna £1 am bob ymweliad dilynol l Mynediad ar y gwastad drwy ddrws llydan i’r ddesg docynnau a’r siop l Lifft i’r ddau lawr l Mynediad ar y gwastad i’r gegin ar ramp allanol Rhannau cyhoeddus eraill l Toiled hygyrch ar y llawr gwaelod. Cyfleusterau eraill l Tâp sain esboniadol ar gyfer ymweliadau â’r carchar. l Copi caled ysgrifenedig ar gael hefyd. l Llyfr tywys ar gael. l Y celloedd gwreiddiol yw’r celloedd yn y Carchar, ac oherwydd eu maint cyfyng, nid ydynt yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. l Cyflwynir gwybodaeth gefndir drwy gyfrwng sgrîn gyffwrdd gweledol. l Cyflwyniad clyweledol am Coch Bach y Bala. l Cadeiriau wedi eu lleoli o amgylch y carchar. l Hysbysebir digwyddiadau drwy’r flwyddyn mewn rhestrau ac ar y wefan, yn cynnwys digwyddiad iaith arwyddion yn ystod Mis Amgueddfeydd ac Orielau ym mis Mai. l Croeso i gwn cymorth ymhob rhan o’r safle. l Yr holl staff wedi derbyn hyfforddiant Cynllun Croeso Cymru. l Dyfarnwyd statws Cynllun Sicrwydd Ansawdd Atyniad i Ymwelwyr (VAQAS) i’r safle. Nodweddion synhwyraidd l Mae waliau cerrig oer y tu mewn i’r carchar ac amrywiaeth o arwynebau sy’n gyffyrddol iawn. |