bwyd a rhaglenni ymborth

Roedd y bwyd yn y carchar yn blaen ac undonog iawn. Roedd y carcharorion yn byw ar ddiet o uwd neu grual blawd ceirch, bara a thatws.

INGREDIENTS OF GRUEL AND SCOUCE.
NOTE.- The Gruel, when made in quantities exceeding 50 pints, to contain 11/2 oz. of Oatmeal per pint; and 2 oz. per pint when made in less quantities. The Scouce to be made of Beef, cut in small pieces, and Potatoes, - the proportions of 9 lbs. weight of Beef to 90 lbs. weight of Potatoes.

(Rhaglen ymborth Carchar Sir Rhuthun, tua 1850.)

Roedd cig yn brin ac roedd gwahanol gategoriau o garcharorion yn cael gwahanol "gyfraddau diet". Roedd y carcharorion a ddedfrydwyd i gyfnod hir yn cael mwy o fwyd na'r rhai â dedfrydau byrrach gan fod carcharor a oedd yn cael ei fwydo'n well yn llai tebygol o ddioddef gwaeledd. Roedd carcharorion sâl yn gostus ac yn anghynhyrchiol. Roedd dynion a merched a ddedfrydwyd gan y llys i'w cadw ar eu pennau eu hunain (solitary confinement) yn derbyn "diet cyffredin eu dosbarth".

(Cofnod Llysoedd Chwarter Sir Ddinbych, 1851.)