cell lazeretto

Cell arwahanu oedd y Gell Lazeretto, wedi ei lleoli wrth borthdy'r carchar fel rheol, lle roedd carcharorion newydd yn cael bath a gweld a oeddynt yn iach cyn cael mynd i'r prif garchar.

Rhoddid gwisg y carchar i'r carcharorion a byddai eu dillad eu hunain yn cael eu diheintio neu eu llosgi i ladd llau a chwain. Mae'n debygol fod y gell hon hefyd yn cynnwys toiled pridd y gallai'r carcharorion a oedd yn gweithio yn y buarth ymarfer corff neu'r ardd ei ddefnyddio.

Yn ôl adroddiad yr Arolygwr yn 1904, roedd y buarth presennol yn "ardd brydferth" bryd hynny.

"Stordy dillad y merched, Carchar Tothill Fields."

(Criminal Prisons in London and Scenes of Prison Life by H. Mayhew and J. Binny, first published in 1862.)

"Diheintio dillad carcharorion yng Ngharchar Coldbath Fields."

(Criminal Prisons in London and Scenes of Prison Life gan H. Mayhew a J. Binny, cyhoeddwyd gyntaf yn 1862.)