cerdd Wil

Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn,
A'i wedd yn ddigon trist,
Ei rwyd a'i wn yn gorwedd
Yn segur yn y gist;
Y ffesant mwy gaiff lonydd
Ym mherthi gwyrdd y plas,
A'r lwyd gwningen redeg
Yn rhydd drwy'r borfa fras.

Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn,
A'i wraig yn malio dim;
Na'r plant na neb yn hidio,
Ond "Fflach" y milgi chwim;
Mae hwn fel hen bererin
Hiraethus a dihedd,
Ei dduw ymhell, ac yntau
Yn methu gweld ei wedd.

Yng nghwr y goedwig neithiwr,
A'r lloer yn hwylio'r nen,
Mi welais lygaid gloywon,
Ac ambell gynffon wen;
A thybiais glywed lleisiau
Fel mwyn aberoedd pell
Yn diolch i'w Chreawdwr
Fod Wil yn rhwym mewn cell.

gan I D Hooson