coch bach y bala

"RUTHIN COUNTY GAOL... RULES FOR PRISONERS.

Every prisoner guilty of any of the following offences will subject himself to punishment:-...Attempting to escape, or assisting others to do so, or knowing of any contemplated attempts for escape and not reporting the same directly."

(Rheolau Carcharorion Carchar Sirol Rhuthun, tua 1850.)

Roedd John Jones, a adwaenid fel Coch Bach y Bala yn botsiwr a chanddo ddwylo blewog. Roedd wedi treulio cyfnod ymhob carchar yng Ngogledd Cymru, a llawer yn Lloegr, a chredir ei fod wedi treulio mwy o'i fywyd yn y carchar nag yn rhydd. Ei lysenw oedd yr "Houdini Cymreig" gan ei fod wedi gwneud enw iddo'i hun am ddianc o'r carchar:

SENSATIONAL ESCAPE FROM RUTHIN PRISON...
NOTED CRIMINAL'S LEAP FOR LIBERTY...
HOLE CUT IN CELL WALL...
IMPROVISED ROPE MADE FROM BED CLOTHES.

"John Jones, alias "Little Turpin," and known throughout Wales as 'Coch Bach y Bala', effected his escape from Ruthin Prison on Tuesday morning, in a sensational manner, and at the time of writing is still at large. He gained his liberty as the result of indomitable pluck, great astuteness, and wonderful agility... 'Coch Bach' is regarded by some as a hero; his performance is certainly a daring piece of work. The escape took place between four and five o'clock in the morning, before the majority of the warders entered upon their duties... The daring manner of his escape, and the quickness with which he left behind him the precincts of the prison baffled the gaol authorities and the police."

(North Wales Times, 4 Hydref 1913.)
Wedi pum diwrnod ar ffo, ac yn wan iawn ar ôl byw'n arw ar Ystad Nantclwyd, saethwyd Jones. Bu farw'n ddiweddarach y diwrnod hwnnw o'i anafiadau a sioc, ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Llanelidan.

Roedd cymaint o ddiddordeb yng Nghoch Bach y Bala fel bod cardiau post yn dangos ei angladd a'r fan lle cafodd ei saethu ar werth i'r cyhoedd.
Cerdyn post o angladd Coch Bach y Bala.
Coch Bach y Bala

Enw: John Jones.

Ganed: Ger y Bala, Sir Feirionydd, tua 1853 mwy na thebyg.

Gwaith: Briciwr, saer, labrwr, morwr, taniwr.

Marwolaeth: Anaf saethu ar ei goes, 60 oed, ar y 6ed o Hydref 1913.

Cymeriad: Hanes o ymddygiad troseddol ers yn ifanc iawn; dwyn wyau; dwyn gwrthrychau diwerth o ddim defnydd iddo ef; roedd yn ymffrostio ei fod wedi dwyn pethau hyd yn oed pan nad oedd;tuedd i guddio'r pethau yr oedd wedi'u dwyn mewn gwrychoedd neu waliau a dychwelai i'w casglu'n hwyrach.

Gweithiwr da. Gweithiodd fel taniwr ar longau i'r Iseldiroedd a De America rhwng y cyfnodau a dreuliodd mewn carchar. Roedd ei ymddygiad yn y carchar yn dda, fel rheol câi ei ryddhau'n gynnar ar drwydded. Roedd o allu uwch na'r cyffredin - amddiffynnodd ei hun ar nifer o achlysuron. Tuedd i fwynhau cyhoeddusrwydd ac enwogrwydd. Yn chwyrn yn erbyn yr heddlu.

Crynodeb o'i gofnod troseddol:

1871: Cyfnod cyntaf yn y carchar (cosb gorfforol cyn hynny).Potsio:
Dedfryd: Mis o garchar.

1872: Cafwyd ef yn euog o ddwyn eitemau gan gynnwys cyllell a phwrs gwag yn Llandderfel.
Dedfryd: 4 mis o garchar.

Gorff 1873: Cafwyd ef yn euog o ddwyn arian ar y 12fed o Chwefror a'r 12fed o Fehefin, cyfanswm o lai na 13 swllt.
Dedfryd: 6 blwyddyn o garchar.

Rhag. 1878: Cafwyd ef yn euog gyda phump arall am derfysg yn y Bala (taflu cerrig at yr heddlu).
Dedfryd: 6 mis o garchar.

11 Gorff 1879: Cafwyd ef yn euog yn Llys Chwarter Sir Ddinbych o fod yn ddihiryn ac yn grwydryn' ar ôl iddo gael ei ganfod mewn gardd yng Ngresffordd gyda'r bwriad o gyflawni ffeloniaeth'.
Dedfryd: carcharwyd am 10 mis yng ngharchar Caer.

22 Hyd. 1879: Arestiwyd am ddwyn 15 oriawr ar 14eg Hydref 1879 yn y Bala a Llanfor.Traddodwyd i sefyll ei brawf yn Llys Chwarter Sir Feirionydd.
Anfonwyd i garchar Rhuthun i aros am brawf.

30 Tach. 1879: DIHANGODD o'r carchar trwy gerdded allan drwy'r brif fynedfa tra bo'r staff yn cael eu swper. Agorodd ddrws ei gell a 3 arall. Cynigiwyd gwobr o £5. Cafodd ei ddal ar y 3ydd o Ionawr 1880 yn ei wely yn y Swan Inn, Mochdre, ger Bae Colwyn.

Ion. 1880: Cafwyd ef yn euog yn Llys Chwarter Dolgellau o ddwyn 15 oriawr a lladrata £44.10s drwy fyrgleriaeth, ac eitemau eraill yn Llanfor ar y 7fed o Ragfyr 1879.
Dedfryd: carchar am 14 blynedd (yng ngharchar Pentonville neu Dartmoor mwy na thebyg).

27 Gorff 1891: Cafwyd ef yn euog ym Mrawdlys Chelmsford (Essex) o ddau achos o ladrata drwy fyrgleriaeth ar yr 11eg o Fehefin1891. Ceisiodd ddianc pan gafodd ei arestio. Plediodd yn euog.
Dedfryd: 7 mlynedd o garchar (naill ai yn Portland neu Dartmoor). Rhyddhawyd ar drwydded.

Ebrill 1900: Cafwyd ef yn euog ym Mrawdlys Biwmares o ladrata £10 drwy fyrgleriaeth o'r Waterman's Arms,Amlwch. Honnodd i'r heddlu ei gyhuddo ar gam.
Dedfryd: 5 mlynedd o garchar (gyda 2 flynedd a 193 o ddyddiau yn weddill o'r ddedfryd flaenorol). Tra'n disgwyl i gael ei drosglwyddo i Dartmoor ceisiodd DDIANC o garchar Caernarfon, trwy dorri ei ffrâm wau i faricedio'r drws a thyllu drwy'r llawr.

Mehefin 1906: Cafwyd ef yn euog ym Mrawdlys Caernarfon o ladrata ac ymosod yn ffyrnig ar wraig 71 oed o Abererch (yn wreiddiol fe'i cyhuddwyd o geisio ei llofruddio) a dwyn £10.Oherwydd hyd anerchiad y diffynnydd i'r llys yn yr achos traddodi eisteddodd llys yr ynadon tan 3a.m.
Dedfryd: carcharwyd am 7 mlynedd yng ngharchar Dartmoor. Rhyddhawyd: Ionawr 1913.

Mehefin 1913: Cafwyd ef yn euog yn Llys Chwarter Dolgellau o dorri i mewn i swyddfeydd Jordansy cyfreithwyr yn y Bala. Tra'n disgwyl i sefyll ei brawf DIHANGODD o gell heddlu'r Bala yn adeiladau'r sir. Cafodd ei ddal mewn ysgubor 3 milltir i ffwrdd:
Dedfryd: 3 blynedd o garchar.

30 Medi 1913: Tra yng ngharchar Rhuthun yn disgwyl i gael ei drosglwyddo i Stafford i dreulio'i garchariad DIHANGODD trwy dyllu drwy wal y gell, a thrwy ddefnyddio'r rhaff a wnaeth o ddillad ei wely i fynd dros do'r capel, y gegin a'r wal.

6 Hyd 1913: Saethwyd gan Reginald Jones-Bateman, 19 oed, ger Nantclwyd Isaf.Bu farw o sioc a gwaedlif o ganlyniad i anaf saethu ar ei goes. Cafodd Jones- Bateman ei gyhuddo o ddyn laddiad yn ddiweddarach, ond gollyngwyd y cyhuddiadau.

9 Hyd 1913: Claddwyd ef ym mynwent Llanelidan.