| diwygio'r carchardai | |
|
Yn dilyn ymchwiliadau John Howard i amodau yn y carchardai pasiwyd dwy ddeddf yn 1774: roedd y gyntaf yn gwella'r hylendid a glanweithdra mewn carchardai ac yn caniatâu penodi meddygon i'r carchar, ac roedd yr ail yn diddymu'r arfer ei bod yn ofynnol i garcharorion a oedd yn cael eu rhyddhau dalu swyddogion y carchar wrth gael eu rhyddhau. Wedi eu hysbrydoli gan ddiwygiadau Howard, penderfynodd yr ynadon yn Sir Ddinbych adeiladu carchar newydd. Erbyn mis Ebrill 1774 roedd Joseph Turner, pensaer o Gaer, wedi llunio'r cynlluniau; cyhoeddwyd hysbysebion ar gyfer cyflawni'r gwaith, a phenodwyd pwyllgor i oruchwylio'r prosiect. Dechreuodd y gwaith ym mis Ionawr 1775. Mae arysgrifen uwchben y drws ffrynt yn coffau adeiladu'r carchar newydd: |
|
|
THE MAGISTRATES, Jos. Turner Architect |
|
| Roedd bywyd yn y carchar yn galed iawn. Nododd adroddiad ar y cyflyrau, dyddiedig 3 Mawrth 1788: | |
| "COUNTY GAOL AT RUTHIN. ...No proper separation of the sexes... The debtors pay no chamber rent, and have the county allowance of two shillings a week, yet do not keep their rooms clean. One of the articles in the rules of 1785, is, that all prisoners committed for felony shall have irons put on their legs at the discretion of the keeper, and the same not be altered without the order of a justice of the peace'; even women are not excepted." |
|
|
Roedd y carchar yn dal: "Debtors 12, Felons &c. 2. Convicts 7..." Cyflog ceidwad y carchar oedd £70.
|
|
| Carchar y Fflint tua 1950, dyluniwyd gan Joseph Turner ac adeiladwyd yn 1784-1785. Defnyddiwyd yr adeilad hwn tan 1870 pan symudwyd carchar y sir i'r Wyddgrug. Cafodd ei ddymchwel yn 1969. Sylwer y tebygrwydd i Ruthun (Gyda chaniatad Archifdy Sir y Fflint). | |