felin draed

"...must be well acquainted with mode of working the tread mill."

Hysbyseb dyddiedig 1827 am "turnkey" neu warchodwr yng Ngharchar Rhuthun. (Archifdy Sir Ddinbych: QSD/AG/1/55).

Cafodd y felin draed ei gosod yng Ngharchar Rhuthun yn 1823. Roedd yn sicrhau llafur rhad a syml, gan ei bod yn ofynnol i'r carcharorion "ddringo'r grisiau" ar yr olwyn. Yn 1833 roedd caplan y carchar:

"reports very favourably of the conduct of the prisoners and states that he cannot overlook the good effects produced by the salutary discipline of the tread mill... the prisoners are subject and accustomed to a fixed and certain degree of labour and restraint, by which they become more subdued and tractable."

(Archifdy Sir Ddinbych: QSD/AG/1/79.)

Drychiad o Felin Draed Carchar Swydd
Gaerloyw, 1835

Yn aml roedd y carcharorion yn "dringo" yr hyn oedd yn cyfateb i 12,000 troedfedd y diwrnod. Roedd yr egni a gynhyrchwyd yn cael ei ddefnyddio i bwmpio cyflenwad dwr y carchar.


Roedd gweithgareddau eraill y buarth ymarfer corff yn cynnwys torri coed neu dorri calchfaen. Roedd y darnau bach yn cael eu defnyddio ar gyfer arwyneb ffyrdd a draenio.