lles yn y carchardai

Roedd cyflyrau y tu mewn i lawer o garchardai yn ofnadwy. Yn cael eu cadw heb eu gwahanu "according to sex or classification", roedd y dynion, y merched a'r plant yn rhannu celloedd cymunedol budr, llaith. Roedd yfed, gamblo ac anfoesoldeb yn rhemp, a chlefydau'n lledaenu'n gyflym. Gwnaeth "twymyn y carchar" (typhoid) ladd llawer o garcharorion, carcharwyr a barnwyr.

Yn 1773 dechreuodd John Howard ymchwilio i'r amodau yn y carchardai. Cafodd ei frawychu gan yr hyn a welodd, ac awgrymodd fod y wladwriaeth yn talu cyflog cyson i'r carcharwyr a bod carcharorion yn cael eu cadw mewn celloedd ar wahan a rhoi gwaith defnyddiol iddynt. Yn 1774 pasiwyd dwy ddeddf i wella hylendid carchardai a rhoi'r gorau i'r arfer o wneud i garcharorion dalu eu carcharwyr am eu rhyddhau.

Parhaodd y carchardai dan reolaeth yr awdurdodau lleol tan 1877 pan ddaeth system carchardai Cymru a Lloegr o dan reolaeth y Comisiwn Carchar a oedd newydd ei ffurfio. Caeodd pum deg tri o garchardai yn cynnwys y rhai yn Ynys Mon, Aberhonddu, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Sir Feirionnydd, Trefaldwyn a Sir Frycheiniog.

"Ffrindiau'n ymweld â charcharorion yng Ngharchar Coldbath Fields Prison."

(Criminal Prisons in London and Scenes of Prison Life gan H. Mayhew a J. Binny, cyhoeddwyd gyntaf yn 1862.)