rheolau a chosbau
Roedd rheolau'r Carchar, a oedd yn cael eu newid yn aml i gydymffurfio a barn y Senedd ynghylch amodau yn y carchardai, yn llym ac yn cael eu gweithredu'n gaeth. Os oedd carcharorion yn camymddwyn roeddynt yn wynebu colli nwyddau, cael eu fflangellu neu eu rhoi ar eu pennau eu hunain. Defnyddiwyd y felin draed a'r cranc llaw fel cosbau hefyd.
"12. - Every prisoner guilty of any of the following offences will subject himself to punishment:- Talking, shouting, cursing, swearing, singing, whistling, or attempting to communicate by signs..."

Rheolau Carchar Rhuthun i Garcharorion tua 1850 (Archifdy Sir Ddinbych).

Weithiau roedd y ddisgyblaeth yn fwy llac. Yn 1848 adroddodd yr Arolygwr Carchardai fod y carcharorion yn parhau yn eu gwelyau am 7.30am pan ddylent fod wedi codi am 6am, nid oedd y rheol dim siarad yn cael ei gweithredu, ac er bod ysmygu'n waharddedig "there was a smell of tobacco in one of the principal day-rooms". Ni ddarllenwyd gweddïau dyddiol ac ni wnaeth y llywodraethwr gyflwyno adroddiad ynghylch ymosodiad ar warden gan garcharor meddw. Wedi i'r adroddiad argymell y dylid ei ddiswyddo, ymddiswyddodd y llywodraethwr.

"Y wialen a'r man chwipio yng Ngharchar Wandsorth."

(Criminal Prisons in London and Scenes of Prison Life gan H. Mayhew a J. Binny, cyhoeddwyd gyntaf yn 1862.)