| trosedd a chosb | ||
|
Dros y canrifoedd mae agweddau tuag at droseddu a'r dulliau o ymdrin â'r rhai sy'n torri'r gyfraith wedi newid yn fawr. Mae troseddau treisgar, fel llofruddiaeth a thrais, wedi cael eu cyfri fel y rhai mwyaf difrifol erioed. Fodd bynnag, yn y gorffennol roedd pobl yn cael cosbau llym am droseddau nad ydynt yn cael eu hystyried yn rhai difrifol erbyn heddiw, fel potsio, dwyn ac achosi difrod i eiddo. Roedd y cosbau'n amrywio o gyfnod yn y cyffion, chwipio, llosgnodi, crogi, ac o 1678 ymlaen eu dedfrydu i'w halltudio i Ynysoedd y Caribi neu drefedigaethau'r America. Roedd troseddau fel rhegi, anfoesoldeb a bod yn grwydryn yn cael eu trin mewn ffordd debyg i ladrata ac ymosod ar bobl. |
||
| Carchar Rhuthun - Rheolau i Garcharorion, tua 1850 (Archifdy Sir Ddinbych). | ||
| Roedd gan grefydd ddylanwad mawr ar farn pobl tuag at drosedd a chosb tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac roedd gan yr Eglwys ei llysoedd ei hun. Fe'u gelwid yn Lysoedd Consistori, ac roeddyn ym ymdrin â phynciau a throseddau moesol - cosbwyd am droseddau fel masnachu ar y Sul, athrodi cymydog, godineb, cael plentyn anghyfreithlon neu syrthio i gysgu yn ystod gwasanaeth eglwys drwy gyfaddefiad cyhoeddus, penyd neu dalu dirwy. | ||
|
"Teulu'r potsiwr yn apelio ar ei ran gerbron y sgweiar" (1817). |
||