| y capel |
|
Ruthin County Gaol Rules For Prisoners. [Rule] 3.- Every prisoner shall attend prayer and public worship, except in case of illness, or other reasonable cause, to be allowed by the governor or a visiting justice. (Rheolau Carcharorion Carchar Rhuthun, tua 1850.) |
|
Roedd mynd i'r eglwys yn orfodol. Roedd pob carcharor yn mynychu'r gwasanaethau yng nghapel y carchar. Yn 1833 cofnododd Samuel Lewis: "...divine service is performed twice, and a sermon delivered once, on every Sunday by a Chaplain; prayers are read daily by the gaoler to the prisoners, who are supplied gratuitously with bibles and religious tracts..." (Topographical Dictionary of Wales gan Samuel Lewis, 1833.) Roedd gadael y capel yn ystod gwasanaeth "unless in case of sickness, which must afterwards be certified by the surgeon..." ac "irreverent behaviour in chapel either before, during or after the service..." yn droseddau a oedd yn cael eu cosbi. Hefyd roedd rheol tawelwch ac roedd y dynion a'r merched yn cael eu cadw ar wahan. |
|
"Y Capel, yn defnyddio'r 'System Wahanu', yng ngharchar Pentonville, yn ystod y Gwasanaeth Dwyfol." (Criminal Prisons in London and Scenes of Prison Life gan H. Mayhew a J. Binny, cyhoeddwyd gyntaf yn 1862.) |
| Roedd gan gaplan y carchar lawer o ddyletswyddau. Yn ogystal a'r chynnal y "Divine Service according to the Liturgy of the Church of England" roedd yn sgwrsio a'r carcharorion, yn holi ynghylch "the state of mind of each individual", yn ymweld ar carcharorion a gedwid yn y gell dywyll ar eu pennau eu hunain neu'r rhai a ddedfrydwyd i farwolaeth, a'r rhai sal. |