| y cranc | |||
|
Fel math o waith neu gosb gorfodwyd y carcharorion i droi dolen cranc llaw - ymarfer ail-adroddus a chwbl ddiwerth. Disgwylid i'r carcharorion droi'r ddolen 14,480 gwaith y diwrnod (1,800 tro yr awr) a 12,000 gwaith y diwrnod i'r bobl ifanc (1,500 tro yr awr - sy'n gyfystyr a throi'r ddolen unwaith bob 21/2 eiliad). Mewn rhai carchardai, fel Caerlyr, roedd yn ofynnol i'r carcharorion droi'r peiriant 2,000 gwaith i ennill eu brecwast a 5,000 gwaith i gael eu cinio. Dim ond i un cyfeiriad yr oedd dolen y cranc llaw yn troi a gellid gosod y mecanwaith cyfrif yn ôl i sero gan wardeniaid y tu allan i'r gell. Gyda rhai modelau roedd cwpanau'n codi tywod o flwch, yn ei gludo i ben yr olwyn, lle roedd yn disgyn yn ôl i'r blwch gwaelod. Gydag eraill roedd y gwasgedd ar olwyn ffrithiant yn cael ei reoli gan y wardeiniaid (a gafodd eu llysenwi'n "screws") a oedd yn addasu'r pwysau neu'n tynhau'r cogiau wrth iddynt weithio'n rhydd. Roedd y peiriannau diweddarach yn rheoleiddio'r mecanwaith eu hunain. |
|||
|
(Criminal Prisons in London and Scenes of Prison Life gan H. Mayhew a J. Binny, cyhoeddwyd gyntaf yn 1862.)
|
|||