y gell dywyll  
 

Roedd llawer o'r carcharorion yn treulio rhan o'u dedfryd wedi eu arwahanu yn y "gell dywyll". Nid oedd ffenestr na golau yn y gell hon, ac unwaith roedd y carcharor i mewn a'r drws wedi'i gau'n dynn, byddai wedi bod bron yn amhosibl dirnad a oedd yn nos neu'n ddydd.

Petai carcharor yn cyflawni trosedd ddifrifol - fel taro swyddog neu geisio dianc - gallai gael ei roi yn y gell dywyll fel cosb. Gallai carcharorion dreulio diwrnodau, neu wythnosau hyd yn oed, ar eu pennau eu hunain yn nhywyllwch y gell hon, ac aeth llawer ohonynt yn wallgof.