y gell gwiltiog
Defnyddiwyd y Gell Gwiltiog i gadw carcharorion ymosodol, gwyllt neu anhylaw. Yn arferol roedd y ffenestr yn uwch a'r drws yn lletach na rhai'r celloedd eraill.

Roedd y drws lletach yn galluogi'r wardeiniaid i hebrwng carcharor - wedi ei roi mewn siaced caeth weithiau - i'r gell. Roedd y drws yn agor at allan fel bo'r warden yn gallu gweld y gell gyfan drwy'r adeg.

Roedd y carcharorion yn cael eu rhoi yn y gell i'w diogelu eu hunain ac ar wahan i'r padiau cwiltiog wedi eu llenwi â blew ceffyl, a oedd yn gorchuddio'r waliau a'r drws, roedd yr ystafell yn wag. Mae'n siwr fod y waliau cwiltiog wedi rhwystro unrhyw swn rhag mynd i'r gell - a rhwystro unrhyw swn rhag dod allan hefyd!