ymchwilio i droseddau

Tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd pob plwyf yn penodi ei gwnstabl di-dâl ei hun. Roedd ei bwerau'n gyfyngedig: dim ond os oedd dioddefwr trosedd yn adrodd am y drosedd wrth ynad lleol y cai gadw unrhyw un ar amheuaeth o gyflawni'r drosedd. Yn yr 1820au roedd un cwnstabl i bob 3,000 o bobl oedd yn byw yn Llundain. Yn 1829 ffurfiodd Syr Robert Peel yr Heddlu Metropolitan. Cyfeiriwyd at yr heddlu proffesiynol cyntaf fel "bobbies" neu "peelers."

Roedd Deddf Heddlu Sirol 1839 yn caniatau i ynadon y tu allan i Lundain benodi prif gwnstabliaid. Sefydlwyd heddluoedd rhanbarthol, wedi ei seilio ar batrwm yr Heddlu Metropolitan, a roedd mwy o drefn i'r broses o ymchwilio i a datrys troseddau.

When a felon's not engaged in his employment,
Or maturing his little felon plans,
His capacity for innocent enjoyment,
Is just as great as any honest man's
Our feelings with difficulty we smother,
When constabulary duties to be done,
Ah, take one consideration with another,
A policeman's lot is not a happy one...
When constabulary duties to be done,
A policeman's lot is not a happy one, happy one...

(Pirates of Penzance: W.S. Gilbert a Syr Arthur Sullivan.)